Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 21 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:31 - 11:44 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Mohammad Asghar (Oscar) AC Rebecca Evans William Graham Elin Jones Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
David Thomas, Llywodraeth Cymru Lisa Howells, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Dirprwyodd Mohammad Asghar AC ar ei ran.
2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol
2.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyffredinol gyda David Thomas, y Prif Swyddog Deintyddol, a’i gydweithiwr Lisa Howells, sy’n Uwch-swyddog Deintyddol.
2.2 Cytunodd y Prif Swyddog Deintyddol i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:
· gwybodaeth ychwanegol am y gwerthusiadau a wnaed mewn perthynas â safon a chanlyniadau’r cynlluniau peilot deintyddol ar gyfer plant a phobl ifanc;
· gwybodaeth ychwanegol am y rhesymau pam na chaiff dyraniadau cyllid i ddeintyddfeydd unigol eu cyhoeddi mwyach;
· copi o ganllawiau diwygiedig Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymdrin ag achosion o golli apwyntiadau, pan fyddant ar gael;
· nodyn ar y gwasanaethau orthodontig ychwanegol a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, a chopi o’r data ychwanegol ar weithgarwch orthodontig yng Nghymru y cyfeiriodd ato yn ystod y cyfarfod;
· nodyn ar y camau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu cymryd mewn perthynas â gwynnu dannedd ac achosion o roi triniaeth ddeintyddol yn anghyfreithlon;
· gwybodaeth am nifer yr ymweliadau deintyddol i’r cartref a gynhaliwyd yng Nghymru y llynedd.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd a 13 Tachwedd.
3.1 Gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd i’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc yn dilyn y sesiwn ar 23 Hydref
3a.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc.
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - darparwr brechiad sengl ar gyfer y frech goch
3b.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â darparwyr brechiad sengl y frech goch.
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - cynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol
3c.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chynlluniau gofal heb ei drefnu a chynlluniau gaeaf ffurfiol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach gyda’r Prif Swyddog Deintyddol.
6 Trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc
6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.
7 Trafod y materion allweddol sy’n codi yn sgîl sesiwn graffu’r Pwyllgor ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
7.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol sy’n codi o’r sesiwn graffu ar ofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14, a chytunodd i ysgrifennu’n fuan at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlinellu ei gasgliadau.
8 Cylch Gorchwyl
8.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar gylchoedd gorchwyl pwyllgorau. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Llywydd.